Cyngor Bro Llangeler ~ Llangeler Community Council
Sir Gaerfyrddin ~ Carmarthenshire

Hysbysiad o bennu dyddiad ar gyfer arfer hawliau etholwyr
Cyngor Bro Llangeler
Y flwyddyn sy’n diweddu 31 Mawrth 2019
1. Dyddiad y cyhoeddiad 15 Mehefin 2019
2. Bob blwyddyn, mae’r cyfrifon blynyddol yn cael eu harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Cyn y dyddiad hwn, mae gan unrhyw berson sydd a diddordeb gyfle i archwilio a gwneud copVau o’r cyfrifon a’r holl lyfrau, gweithredoedd, contractau, biliau, talebau a derbynebau ac ati yn ymwneud a hwy am 20 diwrnod gwaith ar rybudd rhesymol. Am y flwyddyn sy’n diweddu ar 31 Mawrth 2019, bydd y dogfennau hyn ar gael ar rybudd rhesymol drwy wneud cais i:
Mrs S Jones, Awelon, Velindre, Llandysul
rhwng yr oriau 5.30yh a 6.30yh ar Ddydd Llun i Ddydd Gwener gan ddechrau ar 1 Gorffennaf 2019 a gorffen ar 26 Gorffennaf 2019
3. 29 Gorffennaf 2019 hyd nes bod yr archwiliad wedi’i gwblhau, mae gan Etholwyr Llywodraeth Leol a’u cynrychiolwyr hefyd:
-
yr hawl i gwestiynu’r Archwilydd Cyffredinol ynglyn a’r cyfrifon. Gellir cysylltu a’r Archwilydd Cyffredinol drwy Grant Thornton UK LLP, 11-13 Penhill Road, Cardiff, CF11 9UP
-
ac yr hawl i fod yn bresennol gerbron yr Archwilydd Cyffredinol a gwrthwynebu’r cyfrifon neu unrhyw eitem ynddynt. Rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o wrthwynebiad i’r Archwilydd Cyffredinol yn gyntaf drwy Grant Thornton UK LLP, 11-13 Penhill Road, Cardiff, CF11 9UP
-
Rhaid rhoi copi o’r hysbysiad ysgrifenedig hefyd i’r cyngor.
4. Mae’r archwiliad yn cael ei gynnal o dan ddarpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 a Chod Ymarfer Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru.